Oeddech chi’n rhan o’r sîn roc/pync/amgen yn y cyfnod 1970-2010?
Efallai fod eich hoff fand wedi perfformio’n gyntaf yn LePub neu eich bod chi wedi cwrdd â’ch arwr neu arwres yng Nghlwb Kensington?
Os felly, mae eich eisiau chi gan Gasglu Roc Casnewydd, y prosiect hanes cymdeithasol newydd y Neidr Nadreddog.
Mae tair prif ran i'r prosiect. Y cyntaf yw'r arddangosfa yn oriel gelf Amgueddfa Casnewydd. Yr ail ran yw archif sain o atgofion GIG i'w cartrefu yn yr archif sain a sgrin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; ac yn olaf, cyfres o weithgareddau addysg ac ymgysylltu â'r gymuned yng Nghasnewydd drwy gydol y prosiect a'r arddangosfa.
Rydym ni’n chwilio am fynychwyr gigs yng Nghasnewydd yn y 70au, 80au, 90au a’r 2000au i gymryd rhan yn ein prosiect cyffrous. Rydym ni am glywed eich straeon a dysgu am eich profiadau drwy gydol y cyfnod cyffrous yma.
Rydym ni’n gweithio gydag Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd i greu casgliad o hanes roc/pync/amgen Casnewydd. Bydd yn cynnwys y pethau sy’n eich atgoffa o gerddoriaeth y cyfnod – hen docynnau, rhestri o ganeuon i’w perfformio, crysau-T y bandiau, cylchgronau ffan, gwisgoedd ac offerynnau cerdd. Dyma’ch cyfle i rannu eich trysorau â’r byd!
I rannu eich hoff stori GIG cysylltwch â ni drwy'r dudalen cymryd rhan neu Darllenwch fwy ar y dudalen archif.